ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Y Beibl a Diwinyddiaeth (Llawn amser) (GradDip)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn amser
Gradd anrhydedd 2:2

Mae’r Diploma Graddedig (DipGradd) yn Y Beibl a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig archwiliad manwl o’r credoau a’r traddodiadau allweddol sydd wedi llunio Iddewiaeth a Christnogaeth. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am astudio’r Beibl, ei hanes cyfoethog, a sut mae meddwl crefyddol wedi datblygu dros amser, mewn ffordd hyblyg a chanolbwyntiedig.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn archwilio testunau sanctaidd o’r ddwy ffydd, gan ddysgu sut maent wedi esblygu a dylanwadu ar gredoau ac arferion crefyddol. Byddwch hefyd yn archwilio amrywiol enwadau Cristnogol a sut maen nhw’n ymdrin ag addoli a thraddodiad yn wahanol. Drwy ddeall sut mae’r arferion crefyddol hyn wedi siapio diwylliannau a chymdeithasau, byddwch yn gweld sut maen nhw’n parhau i chwarae rhan yn y byd sydd ohoni.

Mae’r cwrs yn eich annog i feddwl yn feirniadol am ddiwinyddiaeth. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio dulliau gwahanol i astudio testunau a syniadau crefyddol mewn ffordd strwythuredig. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut mae diwinyddiaeth a moeseg yn gysylltiedig, a sut mae meddwl crefyddol yn dylanwadu ar ddadleuon modern ar faterion moesol fel cyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau dynol.

Cewch eich cefnogi gan ddarlithwyr profiadol sy’n ymchwilwyr gweithredol ym maes crefydd a diwinyddiaeth. Bydd eu harbenigedd yn arwain eich astudiaethau ac yn eich annog i ddatblygu eich syniadau eich hun. Bydd y cwrs yn eich helpu i feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn eich herio i adfyfyrio ar sut mae credoau crefyddol yn ffitio i drafodaethau cymdeithasol, gwleidyddol a moesegol ehangach.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch wedi cael dealltwriaeth ddofn o’r Beibl, traddodiadau crefyddol, a’u lle yn y byd heddiw. Bydd y sgiliau rydych chi’n eu datblygu yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys arweinyddiaeth grefyddol, addysgu, neu unrhyw rôl sy’n gofyn am feddwl beirniadol cryf a dealltwriaeth o faterion moesegol. Mae’r Diploma Graddedig hwn yn cynnig llwybr at astudiaethau pellach neu gyfleoedd proffesiynol newydd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd 2:2

Myfyrwyr Cartref 

Llawn-amser: £7,200&²Ô²ú²õ±è;

Rhan-amser: £35 y credyd 

Myfyrwyr Tramor 

Llawn-amser: £11,880&²Ô²ú²õ±è;

Rhan-amser: £99 y credyd 

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae dysgu o bell yn cynnig ymagwedd hyblyg at astudio.
02
Addysgir y rhaglen hon trwy ein platfform dysgu o bell unigryw, fel y gallwch barhau i weithio a chyflawni’ch ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio am eich gradd BA.
03
Y cyfle i gael seminarau ar-lein.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hanes hir a nodedig o addysgu ac ymchwil ym maes Astudiaethau Beiblaidd a Diwinyddiaeth Gristnogol, ar lefel israddedig ac Ã´l-raddedig.

Darperir y rhaglen BA Y Beibl a Diwinyddiaeth yn llwyr drwy ddysgu o bell ac mae ar gael i’w hastudio’n amser llawn ac yn rhan amser.

Gorfodol

Sgiliau Astudio a Dulliau Ymchwil yn y Beibl a Diwinyddiaeth
Prosiect Annibynnol

Optional 

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Duw a'r Byd: Y Cosmos mewn Persbectif Crefyddol a Moesegol
Moeseg Trais
Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol
Llythyrau Paul
Dehongli'r Beibl Hebraeg o Safbwyntiau Cyfoes
Iesu drwy Ffydd a Diwylliant

(20 credydau)

Iddewon, Cristnogion a Rhufeiniaid: O'r Macabeaid i Masada

(20 credydau)

Diwinyddiaeth Gristnogol Fodern

(20 credydau)

Ystyr Bywyd

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • Asesir yn bennaf drwy aseiniadau gwaith cwrs

    Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

    • Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
    • Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
    • Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
    • Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar ba flwyddyn y cynigir y modylau.
  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn Â£20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Athrofa’n gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Athrofa’n noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): tua £500 i Â£1,500

    Teithiau unigol: tua £5 i Â£50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddwch yn datblygu gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog a’ch cefnogi. Bydd y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o swyddi gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau