ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Y Beibl a Diwinyddiaeth (Llawn amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae’r radd Y Beibl a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyfle i chi archwilio’r credoau a’r  traddodiadau crefyddol sydd wedi llunio Iddewiaeth a Christnogaeth. Byddwch yn archwilio  traddodiadau ysbrydol ac ysgrifenedig y ddwy ffydd hyn, gan ddysgu am eu hanes cyfoethog a sut mae eu testunau sanctaidd wedi datblygu dros amser. Trwy astudio’r testunau hyn, byddwch yn cael dealltwriaeth ddofn o’r rhesymeg fewnol a’r ystyr y tu ôl i’r crefyddau mawr y byd yma.

Mae’r cwrs hefyd yn edrych yn fanwl ar sut  mae hunaniaeth grefyddol a thraddodiadau’n dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn gweld y byd. Byddwch yn archwilio amrywiol enwadau o fewn Cristnogaeth a sut mae eu harferion crefyddol yn wahanol. Trwy eich astudiaethau, byddwch yn ymgysylltu â sut  mae Iddewiaeth a Christnogaeth  yn ffitio i ddadleuon cymdeithasol, gwleidyddol ac ysbrydol modern. Erbyn diwedd y radd, bydd gennych well dealltwriaeth o effaith crefydd ar fywyd modern, yn enwedig yn y byd sydd ohoni lle mae crefydd a chymdeithas yn aml yn gorgyffwrdd mewn materion allweddol.

Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu sut i ymdrin â diwinyddiaeth o safbwynt beirniadol a dadansoddol. Byddwch yn cael eich cyflwyno i fframweithiau methodolegol a dadansoddol gwahanol, gan eich helpu i ymgysylltu â’r testunau a’r syniadau mewn ffordd strwythuredig. Trwy astudio amrywiaeth o destunau Beiblaidd, byddwch yn dod yn rhan o drafodaethau academaidd ar themâu sy’n codi o ddiwinyddiaeth gyfoes. Bydd hyn yn cynnwys sut mae diwinyddiaeth a moeseg yn cydblethu, a sut y gall meddwl crefyddol ddylanwadu ar ddadleuon moesegol pwysig.

Mae’r cwrs hefyd yn rhoi cyfle i astudio o dan ddarlithwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol ym maes crefydd a diwinyddiaeth. Bydd eu diddordebau’n helpu i lunio eich dysgu a’ch herio i feddwl yn annibynnol. Fe’ch anogir i adfyfyrio ar eich astudiaethau, datblygu eich syniadau eich hun, a dod yn feddyliwr creadigol ac annibynnol.

Erbyn i chi gwblhau’r radd, byddwch nid yn unig wedi cael gwybodaeth ddofn o grefydd a diwylliant, ond hefyd sgiliau pwysig y gellir eu cymhwyso mewn llawer o yrfaoedd. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn arweinyddiaeth grefyddol, y byd academaidd neu rolau lle mae meddwl yn feirniadol a dealltwriaeth o ddylanwad crefyddol ar foeseg yn bwysig, bydd y radd hon yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
BTH1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae dysgu o bell yn cynnig ymagwedd hyblyg at astudio.
02
Addysgir y rhaglen hon trwy ein platfform dysgu o bell unigryw, fel y gallwch barhau i weithio a chyflawni’ch ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio am eich gradd BA.
03
Y cyfle i gael seminarau ar-lein.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein gradd Y Beibl a Diwinyddiaeth yn  canolbwyntio ar feddwl yn feirniadol, dysgu annibynnol, ac ymgysylltu â safbwyntiau amrywiol. Rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol sy’n eich annog i archwilio themâu allweddol mewn crefydd a diwinyddiaeth, gan ddefnyddio amrywiaeth o fframweithiau dadansoddol i ymdrin â thestunau cysegredig, arferion crefyddol a dadleuon cyfoes.


Blwyddyn 1:

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i draddodiadau ysbrydol ac  ysgrifenedig  Iddewiaeth  a Christnogaeth, gan ddysgu am eu hanes a’u testunau sanctaidd. Byddwch yn archwilio sut mae’r credoau crefyddol hyn  yn llunio hunaniaethau ac arferion crefyddol. Bydd modylau craidd hefyd yn cyflwyno fframweithiau methodolegol sylfaenol  ar gyfer astudio’r Beibl a diwinyddiaeth, gan osod y sylfaen ar gyfer dadansoddi dyfnach mewn blynyddoedd diweddarach.


Blwyddyn 2:

Mae eich ail flwyddyn yn adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol trwy blymio’n ddyfnach i enwadau penodol  a hunaniaethau crefyddol o fewn Cristnogaeth ac Iddewiaeth. Byddwch yn archwilio testunau allweddol yn feirniadol ac yn ymgysylltu â diwinyddiaeth gyfoes ac effaith crefydd ar fywyd modern. Mae’r flwyddyn hon hefyd yn annog adfyfyrio dyfnach ar ddiwinyddiaeth a moeseg, gan ganolbwyntio ar eu perthnasedd i grefydd a chymdeithas.

Blwyddyn 3:

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi uwch, gan ymgysylltu â dadleuon cyfredol ar rôl credoau crefyddol mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac ysbrydol. Byddwch yn archwilio themâu cymhleth mewn diwinyddiaeth trwy lens feirniadol ac yn cwblhau prosiect ymchwil, lle gallwch arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb arbennig, gan eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfaoedd yn y dyfodol.

Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Nid yw pob modwl dewisol yn cael ei gynnig bob blwyddyn
  • Cyflwynir modylau dewisol yn amodol ar nifer digonol o fyfyrwyr
  • Mae modylau iaith yn ddewisol/ yn orfodol/ yn graidd yn ôl gallu ieithyddol
  • Mae yna lawer o fersiynau Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Dim ond unwaith y gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn; mae hyn yn dibynnu ar ba flwyddyn y cynigir y modylau.
     

Gorfodol

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Astudio Crefydd
Cyflwyniad i Foeseg Gristnogol
Cyflwyniad i Ddiwinyddiaeth
Cyflwyniad i'r Testament Newydd
Cyflwyniad i'r Beibl Hebraeg

Blwyddyn Mynediad A

Gorfodol

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Duw a'r Byd: Y Cosmos mewn Persbectif Crefyddol a Moesegol
Moeseg Trais
Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol
Llythyrau Paul
Dehongli'r Beibl Hebraeg o Safbwyntiau Cyfoes
Iddewon, Cristnogion a Rhufeiniaid: O'r Macabeaid i Masada

(20 credydau)

Diwinyddiaeth Gristnogol Fodern

(20 credydau)

Ystyr Bywyd

(20 credydau)

Rhyw, Rhywioldeb, a Rhywedd
Teithio gyda Luc: Taith drwy Luc a’r Actau

Blwyddyn Mynediad A

Gorfodol

Traethawd Hir

(40 credydau)

Dewisol

Iesu drwy Ffydd a Diwylliant

(20 credydau)

Iddewon, Cristnogion a Rhufeiniaid: O'r Macabeaid i Masada

(20 credydau)

Diwinyddiaeth Gristnogol Fodern

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Duw a'r Byd: Y Cosmos mewn Persbectif Crefyddol a Moesegol
Moeseg Trais
Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol
Cyffesu gyda Saint Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Llythyrau Paul
Dehongli'r Beibl Hebraeg o Safbwyntiau Cyfoes
Ystyr Bywyd

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32 neu Brofiad Proffesiynol 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS. Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è; 

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è; 

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.    

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • Asesir yn bennaf drwy aseiniadau gwaith cwrs

    Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

    • Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
    • Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
    • Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
    • Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar ba flwyddyn y cynigir y modylau.
  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn Â£20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Athrofa’n gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Athrofa’n noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): tua £500 i Â£1,500

    Teithiau unigol: tua £5 i Â£50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddwch yn datblygu gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog a’ch cefnogi. Bydd y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o swyddi gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau