Ҵý

Skip page header and navigation

Athroniaeth (Llawn amser) (MA)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Llawn amser
Gradd anrhydedd 2:2  neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS

Ydych chi’n chwilfrydig am gwestiynau mawr bywyd, gwybodaeth a bodolaeth? Mae’r MA Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfle i chi archwilio’r syniadau hyn o gysur eich cartref eich hun. Mae’r cwrs dysgu o bell hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n angerddol am athroniaeth ac sy’n awyddus i ymchwilio’n ddyfnach i’w feysydd craidd. P’un a ydych yn berson graddedig mewn athroniaeth sy’n anelu at ehangu eich arbenigedd neu rywun sydd â chefndir mewn pynciau cysylltiedig sy’n chwilio am safbwynt newydd, mae’r rhaglen hon yn darparu amgylchedd cefnogol ac ysgogol.

Mae ein cwrs wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i gael sylfaen athronyddol, gan sicrhau eu bod wedi’u harfogi i ymgysylltu’n feirniadol â syniadau clasurol a modern. Byddwch yn archwilio ystod eang o themâu, gan gynnwys moeseg, athroniaeth y meddwl, ac athroniaeth gyfoes, yn ogystal â meysydd megis hanes athroniaeth ac athroniaeth ddadansoddol. Mae’r pynciau hyn yn darparu sylfaen gyfoethog ar gyfer deall y dadleuon amrywiol ac esblygol sy’n llunio’r byd athronyddol.

Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw ei hyblygrwydd. Gall myfyrwyr ddewis o fodylau amrywiol, gan deilwra eu dysgu i weddu i’w diddordebau. Mae’r modylau hyn yn cynnig cyfle i ymgysylltu â phynciau arbenigol tra’n datblygu sgiliau ymchwil gwerthfawr. Ochr yn ochr ag elfennau a addysgir, mae myfyrwyr yn ymgymryd â thraethawd hir mewn athroniaeth, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar bwnc o’u dewis yn fanwl. Mae’r prosiect hwn yn eich galluogi i arddangos eich gallu i feddwl yn annibynnol, trefnu syniadau cymhleth, a chyfrannu at ysgolheictod athronyddol.

Mae’r MA Athroniaeth yn fwy na gradd yn unig; mae’n daith i ganol syniadau sydd wedi siapio meddwl dynol ers canrifoedd. Gyda’i chydbwysedd o drylwyredd academaidd a chwilfrydedd deallusol, mae’r rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaethau pellach neu yrfaoedd sy’n galw am feddwl beirniadol, dadansoddi a chyfathrebu clir.

Os ydych chi’n barod i ymgysylltu â rhai o gwestiynau mwyaf heriol a boddhaus meddwl dynol, bydd y cwrs hwn yn darparu’r offer a’r mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch chi. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar-lein
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd 2:2  neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS

Pam dewis y cwrs hwn

01
1. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar gronfa o arbenigedd sydd wedi’i sefydlu mewn materion cysylltiedig ac mae'n cwmpasu ystod o brosiectau yr ymgymerwyd â hwy dros nifer o flynyddoedd
02
2. Mae'r staff yn weithgar ym maes ymchwil ac yn mynychu cynadleddau academaidd yn rheolaidd
03
3. Cyfle i astudio meysydd blaengar o ddiddordeb academaidd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein MA Athroniaeth yn pwysleisio dull rhyngweithiol o ddysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan gynnig cydbwysedd o gysyniadau athronyddol craidd ac archwilio meysydd arbenigol yn fanwl. Gyda mynediad at fodylau sy’n cyd-fynd ag ymchwil gyfredol, cewch eich arwain gan ysgolheigion gweithgar sy’n angerddol am rannu eu harbenigedd, gan annog meddwl yn feirniadol a datblygiad academaidd annibynnol.

Blwyddyn 1: 
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio pedwar modwl, gan gynnwys y modwl gorfodol “Gwybodaeth, Rheswm, a Realiti.” Byddwch yn archwilio cwestiynau athronyddol sylfaenol ynghylch gwybodaeth, realiti, a’r berthynas rhwng y meddwl a’r corff. Byddwch yn dewis modylau dewisol fel Athroniaeth Foesol neu Athroniaeth Amgylcheddol, gan eich galluogi i deilwra eich dysgu i’ch diddordebau.

Blwyddyn 2: 
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar eich traethawd hir MA mewn athroniaeth, prosiect unigol sylweddol lle byddwch yn archwilio mater athronyddol yn fanwl. Byddwch yn defnyddio’r sgiliau ymchwil a’r wybodaeth a gafwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yn gweithio’n annibynnol, gyda chefnogaeth goruchwyliwr eich traethawd hir, i ddatblygu prosiect ymchwil manwl sy’n canolbwyntio ar faes o’ch diddordeb.

Gorfodol

Gwybodaeth, Rheswm, a Realiti
Traethawd Hir MA (Athroniaeth)

Dewisol

Athroniaeth Foesol
Yr Hunan: Dwyrain a Gorllewin
Islam Heddiw
Moeseg Gymhwysol

(30 credydau)

Athroniaeth Amgylcheddol

(30 credydau)

Y Corff a'r Meddwl: Descartes a Wittgenstein
Cyfarfyddiadau Rhyng-ffydd: Rhyngweithio Crefyddol mewn Byd Cymhleth
Profiad Crefyddol Heddiw
Cysyniadaeth Tsieineaidd o’r Hunan

(30 Credits)

Athroniaeth Fwdhaidd

(30 Credits)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2 į&Բ;

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. &Բ;

     Cyngor a Chymorth Derbyn   
     
    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &Բ;

    Gofynion Iaith Saesneg   

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill. į&Բ;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &Բ;
     
    Gofynion fisa ac ariannu &Բ;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. į&Բ;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. į&Բ;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  į&Բ;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   į&Բ;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &Բ;

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. į&Բ;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &Բ;

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. į&Բ;

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. į&Բ;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg  

  • Mae nifer o wahanol feysydd damcaniaethol ac ymarferol, cyd-destunau daearyddol penodol, a themâu a safbwyntiau hanesyddol yn sail i’r dysgu ar y cwrs Athroniaeth (MA). Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis chi. 

  • Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, fel y gallu i: ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol; cyflwyno dadleuon clir a chydlynol; cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn modd eglur.

    Yn fwy penodol, bydd y rhaglen yn denu myfyrwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, neu sydd eisoes mewn gwaith, mewn meysydd neu sectorau lle bydd dealltwriaeth o faterion athronyddol o fudd.

    Gall hyn gynnwys gweithwyr gwirfoddol, athrawon a hyfforddwyr, academyddion, asiantaethau a phrosiectau cymunedol a’r llywodraeth, rhwydweithiau rhyngddiwylliannol, aml-ffydd penodedig i feithrin cysylltiadau cymunedol, cynlluniau cymodi ac ailadeiladu gydag asiantaethau byd-eang amrywiol a chyrff sy’n lleddfu effeithiau trychineb.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau