Ҵý

Skip page header and navigation

Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (Llawn amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
6 Mis Llawn amser

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol yn gwrs dysgu o bell sy’n archwilio sut mae pobl wedi deall a chysylltu â’r awyr, y sêr a’r planedau drwy gydol hanes. Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg gan Ganolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant ac mae’n rhoi cyfle i ddysgu sut mae’r cysylltiadau hyn wedi llunio diwylliant a chredoau dynol.

Mae’r rhaglen hon yn cyflwyno’r syniad bod y cosmos wedi bod yn rhan ganolog o fywyd dynol ers miloedd o flynyddoedd, gan ddylanwadu ar bopeth o grefydd a chelf i wleidyddiaeth a phensaernïaeth. Mae Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol yn edrych ar y ffyrdd y mae pobl ar draws amser a lle wedi gwneud synnwyr o’r bydysawd a’u lle ynddo. Byddwch yn astudio seryddiaeth, astudiaeth wyddonol o’r sêr, ac astroleg, yr arfer o gysylltu symudiadau cyrff nefol â phrofiad dynol. Mae’r cwrs yn defnyddio dull dyniaethau eang, gan ddefnyddio disgyblaethau fel hanes, anthropoleg ac archaeoleg i helpu myfyrwyr i ddeall y cysylltiadau cyfoethog rhwng y cosmos a diwylliant dynol.

Ffocws allweddol y cwrs yw’r gwahaniaeth rhwng seryddiaeth ac astroleg a sut mae’r ddau faes hyn wedi cael eu deall a’u defnyddio gan ddiwylliannau gwahanol. Byddwch hefyd yn astudio sut mae’r awyr wedi bod yn bwysig mewn crefydd, y celfyddydau, a syniadau am y meddwl. Mae archeoseiryddiaeth, sef yr astudiaeth o sut mae symbolau ac aliniadau seryddol yn ymddangos mewn pensaernïaeth hynafol a modern, yn rhan bwysig o’r rhaglen. Trwy archwilio’r awyr o safbwynt gwyddonol a diwylliannol, byddwch yn dysgu sut mae cymdeithasau gwahanol wedi cysylltu â’r sêr.

Mae’r cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ymwneud ag ystod eang o bynciau, o gosmosau hynafol i gredoau modern am y sêr. Fel rhan o’r rhaglen, byddwch yn cadw dyddiadur o’ch arsylwadau o’r awyr ac yn archwilio sut mae pobl heddiw yn dehongli’r cosmos. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae ein cysylltiad â’r sêr wedi llunio diwylliant drwy gydol hanes.

Mae’r cwrs unigryw hwn yn ddewis perffaith i unrhyw un sydd am archwilio sut mae’r cosmos wedi dylanwadu ar fywyd a diwylliant dynol, gan gynnig ffordd hyblyg a hygyrch o astudio’r pynciau diddorol hyn. 

O’r cwrs Tystysgrif Ôl-raddedig, gallwch symud ymlaen i’r Rhaglenni Diploma Ôl-raddedig neu radd MA. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Mis Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dyma'r unig radd prifysgol achrededig yn y byd sy’n archwilio'r berthynas ddynol â'r awyr trwy gyfrwng hanes a diwylliant.
02
Rydym yn mynd i’r afael ag ystod eang o ddeunydd, o'r hen fyd i'r byd presennol, ac ar draws diwylliannau, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiectau ymchwil unigol.
03
Mae ein holl staff addysgu yn arbenigwyr yn eu meysydd, a chanddynt PhD neu gymwysterau ôl-raddedig eraill yn y maes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol hon wedi’i chynllunio ag athroniaeth sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan annog dysgu annibynnol ac ymgysylltu beirniadol. Mae ein haddysgu’n cyfuno cyfuniad cyfoethog o arweiniad academaidd ac archwilio ymarferol, gan eich galluogi i ymchwilio i bynciau cymhleth wrth gael dealltwriaeth werthfawr gan diwtoriaid arbenigol a chyd-fyfyrwyr.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol o seryddiaeth ac astroleg ddiwylliannol. Trwy’r modiwl craidd, ‘Sylfeini mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol,’ byddwch yn archwilio sut mae’r disgyblaethau hyn wedi dylanwadu ar feddwl a chymdeithas ddynol. Byddwch yn ymgysylltu â chysyniadau hanfodol, megis cosmoleg, mytholeg, ac arwyddocâd ysbrydol cyrff nefol, gan osod y llwyfan ar gyfer ymchwiliad dyfnach yn y blynyddoedd dilynol.

Yna, byddwch yn dewis o blith modiwlau dewisol amrywiol, megis “Daearyddiaeth Sanctaidd” a “Cosmoleg, Hud a Dewiniaeth,” sy’n eich galluogi i arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb personol. Gallwch hefyd ddatblygu eich prosiect ymchwil annibynnol eich hun, gan gael arbenigedd mewn dadansoddi beirniadol a’r gallu i lunio dadleuon sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Gorfodol

Sylfeini mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol

(30 credydau)

Dewisol

Daearyddiaeth Sanctaidd

(30 credydau)

Cosmoleg, Hud and Dewiniaeth

(30 credydau)

Awyr Sanctaidd

(30 credydau)

Ymchwilio Cosmolegau Cyfoes

(30 credydau)

Astudio Annibynnol Cyfeiriol

(10 / 20 credydau)

Astroleg, Hanes, Ysbryd ac Enaid

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2 į&Բ;

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. &Բ;

     Cyngor a Chymorth Derbyn į 
     
    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &Բ;

    Gofynion Iaith Saesneg į 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg . į&Բ;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &Բ;
     
    Gofynion fisa ac ariannu &Բ;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. į&Բ;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. į&Բ;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr. į &Բ;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. į į&Բ;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &Բ;

  • Some modules in this course are available to study through the medium of Welsh either fully or partially. In all cases students will be able to submit written assessments through the medium of Welsh. į&Բ;

    If you choose to study your course either fully or partially through the medium of Welsh, you may be eligible to apply for scholarships and bursaries to support you with your studies. &Բ;

    We are continuously reviewing our Welsh medium provision, the precise availability of modules will vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course offers modules available through the medium of Welsh this may vary from year to year, and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific Welsh medium modules cannot be guaranteed. į 
     
    Extracurricular Welsh Opportunities  

    There are many ways to engage with Welsh culture and life at UWTSD, including joining clubs and societies for Welsh speakers and becoming a member of our vibrant Coleg Cymraeg Cenedlaethol branch. į&Բ;

    Opportunities to Learn Welsh  

    We also provide a variety of opportunities to learn and develop your Welsh language skills. į &Բ;

  • Caiff pob modiwl ei asesu drwy 7,500 o eiriau o waith ysgrifenedig.  Er enghraifft, mae rhai modiwlau yn gofyn am un traethawd byr 1,500 o eiriau ac un traethawd hirach 6,000 o eiriau, i’w cyflwyno yn wythnos 10 i 12 fel arfer.  Mewn modiwlau eraill, gall y traethawd cyntaf fod yn 3,000 o eiriau a’r ail yn 4,500 o eiriau, er enghraifft.

    Gall gofynion asesu, hyd yr asesiadau a dyddiadau cau amrywio fesul modiwl. Gall y traethodau byrrach fod yn adolygiad beirniadol o ddarn o waith ysgrifenedig neu gellir eu dewis rhwng dau deitl. Mae dewis ehangach o deitlau ar gyfer traethodau hirach. Mewn rhai modiwlau, bydd y teitl a’r pwnc yn cael eu trafod gyda thiwtor y cwrs.

    Yna dychwelir pob darn o waith gyda sylwadau gan naill ai un neu ddau o diwtoriaid, a chaiff y myfyrwyr gyfle i gael tiwtorial dros Skype er mwyn trafod y sylwadau.

  • Nid oes unrhyw gostau ychwanegol ffurfiol. Fodd bynnag, bydd angen gwe-gamera i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein – tua deg punt sterling neu ddeg doler yr UD. Bydd rhai myfyrwyr yn dymuno prynu llyfrau ychwanegol (mae angen rhai), er bydd y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r cwrs ar-lein.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn astudio’r cwrs MA heb unrhyw reswm arall ond oherwydd eu bod wrth eu bodd â’r pwnc. Mae rhai yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD, naill ai gyda ni neu mewn prifysgolion eraill. 

    Mae’r berthynas rhwng pob gwaith academaidd a chyflogaeth anacademaidd bob amser yn seiliedig ar werthfawrogiad darpar gyflogwyr o’r sgiliau cyffredinol sy’n cael eu meithrin wrth astudio ar gyfer MA. Fel arfer, mae’r rhain yn cynnwys meddwl yn feirniadol, sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a’r gallu i ymgymryd â phrosiectau annibynnol a’u cwblhau.

    Mae’r nodwedd olaf, yn enwedig, yn un sy’n cael ei werthfawrogi gan lawer o gyflogwyr. Mae rhai o’n graddedigion yn parhau ym myd addysg naill ai fel myfyrwyr ymchwil neu fel athrawon: mae un o’n myfyrwyr graddedig yn addysgu ar lefel israddedig tra bod un arall, athrawes ysgol, wedi cael dyrchafiad yn ei swydd a chodiad cyflog ar ôl iddi raddio.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau