Dehongli Beiblaidd (Rhan amser) (MA)
Mae’r MA mewn Dehongli Beiblaidd yn rhaglen gynhwysfawr sy’n dwyn ynghyd safbwyntiau hanesyddol a chyfoes yr Hen Destament a’r Testament Newydd.
Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn archwilio Diwinyddiaeth Gristnogol, mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio dan arweiniad arbenigwyr ym maes Astudiaethau Beiblaidd sy’n cyfrannu at ymchwil blaenllaw yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae gan gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, hanes maith a nodedig, sy’n ymestyn yn ôl i ddechrau’r 19eg ganrif, o ddarparu addysg arbenigol ym meysydd Diwinyddiaeth a Chrefydd. Mae’r rhaglen hon yn cyfuno Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, gan wahodd myfyrwyr i fod yn rhan o gymuned fywiog, fyd-eang o ddysgwyr. Trwy gofrestru ar yr MA hwn byddwch yn ymuno â rhaglen sy’n adnabyddus am ragoriaeth addysgu ac am ein traddodiad cyfoethog o addysg arbenigol ym maes astudiaethau Beiblaidd a diwinyddiaeth Gristnogol.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r MA mewn Dehongli Beiblaidd yn darparu astudiaeth fanwl o’r Hen Destament, y Testament Newydd, a Diwinyddiaeth Gristnogol o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes. Trwy ddysgu o bell ar-lein, bydd myfyrwyr yn archwilio Astudiaethau Beiblaidd gyda mynediad i Rith-amgylchedd Dysgu (RhAD) cyfoethog, trafodaethau grŵp, a digwyddiadau ysgol haf breswyl flynyddol.
Gorfodol
Dewisol
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2
- neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), adolygiadau, aseiniadau testunol, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.
-
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.