Athroniaeth a Chrefydd (Llawn amser) (MA)
Mae’r rhaglen MA Athroniaeth a Chrefydd yn gwrs dysgu o bell sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i archwilio cwestiynau sylfaenol am fywyd a bodolaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio syniadau mawr o draddodiadau’r Dwyrain a’r Gorllewin, mae’r cwrs hwn yn cynnig y cyfle perffaith. Byddwch yn archwilio pynciau allweddol fel natur yr hunan, realiti, a phrofiadau crefyddol, wrth ddysgu am wahanol safbwyntiau athronyddol a chrefyddol.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn edrych ar sut mae traddodiadau’r Dwyrain a’r Gorllewin wedi ceisio ateb cwestiynau pwysicaf bywyd. Trwy astudio traddodiadau’r Dwyrain fel Bwdhaeth a Hindŵaeth, a thraddodiadau’r Gorllewin megis athroniaeth Roegaidd neu feddwl Cristnogol, byddwch yn gweld sut mae gwahanol ddiwylliannau a systemau cred yn deall syniadau am yr hunan, realiti, a’r byd o’n cwmpas. Mae’r traddodiadau hyn wedi siapio meddwl dynol ers canrifoedd, a thrwy eu hastudio, byddwch yn ennill dealltwriaeth feirniadol o sut mae syniadau am athroniaeth, crefydd a diwinyddiaeth yn cysylltu â materion yn y byd go iawn.
Mae’r cwrs yn eich galluogi i ymgysylltu â safbwyntiau athronyddol a safbwyntiau crefyddol sy’n herio ac yn ehangu eich meddwl. Byddwch yn edrych ar bynciau fel ysbrydolrwydd, moeseg, a’r ffyrdd y mae gwahanol ddiwylliannau yn deall ystyr bywyd a bodolaeth. Byddwch hefyd yn astudio’r cysyniad o brofiadau crefyddol, gan ddysgu sut y cânt eu disgrifio, eu dehongli a’u deall ar draws gwahanol systemau cred.
Yn ogystal ag archwilio’r syniadau eu hunain, byddwch yn datblygu sgiliau mewn hermeniwteg—yr astudiaeth o sut i ddehongli testunau a syniadau. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pynciau cymhleth yn well a meddwl yn feirniadol am sut mae syniadau crefyddol ac athronyddol yn dylanwadu ar ddiwylliant a chymdeithas. Wrth i chi astudio, byddwch hefyd yn archwilio’r syniad o draddodiadau doethineb, gan weld sut mae’r athroniaethau a’r crefyddau allweddol hyn yn helpu i arwain ymddygiad a meddwl dynol.
Mae’r rhaglen hon yn berffaith i’r rhai sydd eisiau dysgu am draddodiadau byd-eang a sut maent yn llunio’r ffordd rydym yn gweld bywyd, ysbrydolrwydd a realiti. P’un a ydych yn newydd i athroniaeth a chrefydd, neu eisoes wedi eu hastudio mewn rhyw ddyfnder, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o’r syniadau allweddol sydd wedi dylanwadu ar feddwl dynol ers canrifoedd.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu meddwl yn fwy beirniadol am athroniaeth, a chrefydd, o safbwynt byd-eang, gan ddeall sut mae traddodiadau gwahanol wedi llunio syniadau am fywyd, yr hunan a’r byd o’n cwmpas.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein cwrs Athroniaeth a Chrefydd yn pwysleisio dull hyblyg o ddysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Wedi’i gyflwyno ar-lein, mae’n cyfuno astudiaeth academaidd drylwyr gyda thiwtorialau un-i-un a fforymau trafod diddorol. Mae’r rhaglen yn meithrin meddwl beirniadol, safbwyntiau byd-eang, a thwf personol, gan gynnig taith drochol drwy syniadau athronyddol a chrefyddol amrywiol.
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio cysyniadau sylfaenol trwy un modwl gorfodol a detholiad o dri modwl dewisol, sy’n dod i gyfanswm o 120 credyd. Mae’r modylau’n amrywio o waith athronwyr dylanwadol i athroniaeth amgylcheddol, a rhyngweithio rhyng-ffydd. Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi, yn ymgysylltu â dadleuon cyfoes, ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth o feddwl athronyddol a chrefyddol byd-eang.
Blwyddyn 2 (Traethawd Hir)
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar draethawd hir, gan eich galluogi i arbenigo mewn pwnc o’ch dewis. Wedi’i arwain gan diwtoriaid arbenigol, mae’r prosiect ymchwil mawr hwn yn eich annog i gymhwyso’ch sgiliau mewn ymholi beirniadol, astudio annibynnol, ac ysgrifennu academaidd, gan syntheseiddio’ch dysgu o’r modylau a addysgir.
Gorfodol
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
tysteb
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2  &²Ô²ú²õ±è;
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. &²Ô²ú²õ±è;
 Cyngor a Chymorth Derbyn  
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;Gofynion Iaith Saesneg  
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae nifer o wahanol feysydd damcaniaethol ac ymarferol yn sail i’r dysgu ar y cwrs Athroniaeth a Chrefydd (MA), gan gynnwys theori astudiaethau rhyng-ffydd a pherthynas rhyng-grefyddol, cyd-destunau daearyddol penodol, a themâu a safbwyntiau hanesyddol. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis chi.
-
Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, fel y gallu i:
- ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol;
- cyflwyno dadleuon clir a chydlynol;
- cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn modd eglur.
Yn fwy penodol, bydd y rhaglen yn denu myfyrwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, neu sydd eisoes mewn gwaith, mewn meysydd neu sectorau lle bydd dealltwriaeth o faterion rhyng-ffydd o fudd.
Bydd hefyd yn apelio at fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer gwasanaeth crefyddol a/neu ddefosiynol, bywyd o wasanaeth cyhoeddus, ac amrywiol brosiectau gwirfoddol.