
Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein cwrs Celf Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn cynnig ymagwedd eang at addysgu celf gain, lle mae arfer artistig unigol yn tynnu ar amrywiaeth o ddeunyddiau, cyfryngau, cysyniadau ac athroniaethau. Mae ein cwrs yn gosod pwyslais cryf ar arfer stiwdio, safleoedd penodol, a chyd-destunoli arfer.
Byddwch yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys paentio, lluniadu, arfer cerfluniol, fideo, sain, gosodweithiau, a pherfformiadau celf gain, gan eich helpu i ddatblygu eich arfer eich hun. Byddwch yn dysgu gan artistiaid a darlithwyr o fri rhyngwladol, gan eich galluogi i ddeall maes newidiol arfer celf gain gyfoes. Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr i ystyried eu safle o fewn cymdeithasau lleol a byd-eang, i lywio ac ysgogi eu gwaith.
Mae ein rhaglen yn cynnig i chi eich lle stiwdio eich hun, gallu i ddefnyddio ein hystod eang o gyfleusterau gan gynnwys gweithdai metel, pren, resin a cherflunio/cerameg, stiwdios/ystafelloedd tywyll digidol, cyfleusterau bywluniadu a gwneud printiau.
Cewch eich annog i archwilio celf gyfoes o fewn cyd-destun ehangach, gan ystyried arferion hanesyddol a chyfoes, gan eich galluogi i ystyried eich gwaith mewn perthynas â materion diwylliannol a chymdeithasol ehangach. Cewch amgylchedd cefnogol sy’n meithrin creadigrwydd ac arloesi, gan ddarparu safbwynt proffesiynol ar eich cyfer yn y celfyddydau gweledol a’ch helpu i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau.
Mae ein cwrs yn ddelfrydol i’r rheini sy’n frwdfrydig am y celfyddydau gweledol ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn lleoliad cynhwysfawr a chefnogol. Mae’r holl staff yn artistiaid sy’n gweithio ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol, sy’n tynnu’r byd proffesiynol yn nes at eich profiad addysgiadol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth addysgu’n canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd unigol gan ddarparu sylfaen cadarn mewn technegau celf gain ac arferion cyfoes. Rydym yn credu mewn cydbwysedd o ddysgu ymarferol a damcaniaethol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu llais artistig eu hunain a’u dealltwriaeth feirniadol o gelf gain o fewn amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen mewn arfer stiwdio. Byddwch yn gweithio mewn gweithdai arbenigol i ddatblygu sgiliau mewn gwahanol ddefnyddiau a chyfryngau. Rhoddir pwyslais ar ddeall cysyniadau ac athroniaethau sy’n sail i gelf gyfoes.
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn mireinio eich arfer artistig unigol trwy arbrofi ymhellach gyda chyfryngau a thechnegau. Gyda ffocws ar ymestyn eich arfer creadigol trwy brosiectau cydweithredol a gwaith rhyngddisgyblaethol, byddwch yn ymgysylltu â theori feirniadol ac yn archwilio eich sefyllfa o fewn cymdeithas, gan gyfoethogi eich sgiliau ymarferol yn ogystal â’ch gwybodaeth ddamcaniaethol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 Credyd)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ffocysu ar brosiectau uwch, gan arwain at arddangosfa fawr. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio arfer creadigol annibynnol, sy’n caniatáu i chi arbenigo yn eich dewis faes, gan weithio’n agos gyda darlithwyr, i baratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn arfer celf gain.
(40 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities & Exhibitions
Cyfleusterau ac Arddangosfeydd
Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys gweithdai Cerflunio sy’n canolbwyntio ar weithdai metel, pren, a cherameg, ochr yn ochr â chyfarpar arbenigol megis torwyr laser a chwistrell ddŵr, rhithrealiti (VR), stiwdios digidol/ystafelloedd tywyll ffotograffig, stiwdios sain a fideo, a chyfleusterau gwneud printiau.
Rydym yn unigryw o ran ein bod ni’n pwysleisio pwysigrwydd bywluniadu yn rhan o’r amserlenni wythnosol, gan ddysgu nid yn unig am dynnu llun, ond pwysigrwydd ‘edrych’.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Newyddion
Newyddion
Oriel Celf Gain
Gwybodaeth allweddol
-
120 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
– Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE).
Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau.  
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.
-
Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Nid oes dim arholiadau ar y cwrs hwn.
Caiff myfyrwyr eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol modylau, a chynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd pob modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:
Tiwtorialau
Rhoddir y tiwtorialau hyn ar draws pob lefel. Mae cyfnod dwysach o diwtorialau un i un yn digwydd ar gyfer myfyrwyr y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn sydd erbyn hynny’n gweithio’n fwy annibynnol. Gall myfyrwyr ofyn am diwtorial yn ôl yr angen. Fodd bynnag, fel tîm, rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth gwerthfawr a rheolaidd gan bob aelod o staff. Rydym yn credu’n gryf y dylai myfyrwyr gael tiwtorialau unigol er mwyn cefnogi eu teithiau creadigol. Caiff y gwaith, gan gynnwys datblygiad ymarferol a chysyniadol, ei drafod, ynghyd â bwriadon y myfyriwr yn y dyfodol. Mae’n gyfle i unrhyw faterion/bryderon gael eu codi gan naill barti neu’r llall. Cynhyrchir dau gopi o’r cofnod ysgrifenedig o’r tiwtorial, bydd y myfyriwr yn cadw un copi a’r llall yn cael ei gadw ar ffeil.
Trafodaethau beirniadol grŵp
Cynhelir y rhain ar draws pob lefel. Mae’n yn gyfle rhagorol i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cymheiriaid mewn ffordd strwythuredig yn ogystal â mewnbwn defnyddiol gan staff.
Cyflwyniadau anffurfiol a ffurfiol
Rhoddir cyfleoedd i bob myfyriwr siarad gyda’u cyd-fyfyrwyr am eu gwaith, gan alluogi iddynt ddeall pwysigrwydd cyflwyno o fewn arfer celf gain. Mae Cyflwyniad Ffurfiol yn y drydedd flwyddyn yn rhan o’u Prif Brosiect sy’n arwain at yr asesiad terfynol yn y Sioe Radd.
Arddangos gwaith
Mae natur hyn yn amrywio o un lefel i’r nesaf. Cyflwynir holl asesiadau myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail ym man stiwdio’r myfyriwr unigol, wedi’i ddilyn gan sioe diwedd flwyddyn ar y cyd yn y mannau a baratowyd, wedi i’r sioeau gradd ddod i ben. Caiff sut i baratoi’r mannau hyn; o wagio mannau stiwdio i droi man yn arddangosfa; ei addysgu, a’i ddeall, o fewn cyd-destun arfer proffesiynol, ar gyfer y drydedd flwyddyn.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio.
Rydym y darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol, er enghraifft, prynu eu defnyddiau arbenigol ac offer eu hunai, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen ac awgrymu cyflenwyr priodol os bydd arnoch eisiau prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd pecyn offer celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol helaeth pwrpasol (PC a Mac) i chi ymgymryd â’ch gwaith cwrs arno, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu dim.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran µþ·É°ù²õ²¹°ùï²¹³Ü ac Ysgoloriaethau.
-
Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.
-
Mae yna nifer o gyfleoedd o flaen ein myfyrwyr Celf Gain, lle mae eu hymagwedd aml-sgil yn eu caniatáu i deithio i lawr nifer o lwybrau artistig proffesiynol, gan gynnwys:
- Artist proffesiynol wrth ei waith
- Curadur/rheolaeth amgueddfeydd ac orielau
- Therapi Celf
- Arweinydd prosiect mewn celf gymunedol
- Addysgu/darlithio