Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (Sylfaen, BA Anrh)
Mae’r rhaglen Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen hon yn cynnig cyfle gwych i ymchwilio i fyd diddorol y gorffennol. Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, mae’r cwrs hwn yn cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth â phrofiadau ymarferol. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr profiadol sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil maes diweddaraf, a byddwch yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau archeolegol ymarferol. Bydd y cymysgedd hwn o ddulliau dysgu yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich cefnogi yn ystod eich astudiaethau ac yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae archaeoleg yn ymwneud â deall gorffennol dynol ryw trwy’r arteffactau a adawyd ar ôl gan bobl. Mae hyn yn cynnwys archwilio eitemau fel offer carreg, crochenwaith ac esgyrn. Trwy astudio’r deunyddiau hyn, gallwch ddarganfod sut roedd pobloedd hynafol yn byw a sut roedd eu cymdeithasau’n cael eu strwythuro. Mae’r broses hon yn cynnwys archwilio sut roedd bodau dynol yn rhyngweithio â’u hamgylchedd a sut y gwnaeth eu credoau siapio’r pethau a grëwyd ganddynt.
Rhan allweddol o’r rhaglen hon yw edrych ar y darlun mwy. Byddwch yn astudio adeiladau, henebion a thirweddau hanesyddol i ddeall sut mae bodau dynol wedi siapio’r tir a sut y dylanwadodd newidiadau amgylcheddol ar eu bywydau. Mae’n hanfodol dysgu am gredoau a hunaniaethau cymdeithasau’r gorffennol hefyd, gan gynnwys sut roedden nhw’n ystyried eu hunain ac eraill mewn bywyd a marwolaeth. Mae cael y wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall sut mae datblygiad dynol wedi dylanwadu ar y byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Er mwyn bod yn llwyddiannus ym maes archaeoleg, mae’n hanfodol ystyried cwestiynau damcaniaethol a moesegol. Byddwch yn archwilio pynciau pwysig fel treftadaeth, cynrychiolaeth a sut mae technoleg yn effeithio ar ein dealltwriaeth o’r gorffennol. Ar ben hynny, byddwch yn dysgu sut y gall cymwysiadau digidol wella ein gwybodaeth am gymdeithasau hynafol. Trwy ymchwilio i’r meysydd hyn, gallwch gael mewnwelediad i sut mae’r corff, y meddwl a syniadau dynol wedi esblygu dros amser.
Mae’r rhaglen radd pedair blynedd hon wedi’i strwythuro i’ch helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau ar draws gwahanol feysydd astudio. Byddwch yn dysgu dulliau archeolegol hanfodol sy’n eich galluogi i archwilio a dehongli gorffennol dyn. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg uwch i astudio DNA ac arteffactau hynafol. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil maes, gan roi cyfle i chi gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn cyd-destunau yn y byd go iawn.
Erbyn diwedd eich astudiaethau, bydd gennych ddealltwriaeth ddyfnach o archaeoleg a gorffennol dyn. Byddwch yn meithrin y sgiliau sy’n hanfodol wrth archwilio sut roedd pobl yn byw a sut mae eu bywydau wedi siapio’r byd sydd ohoni. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn archaeoleg a meysydd cysylltiedig, gan agor drysau i astudio ymhellach ac amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol cyffrous.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Archaeoleg yn cyfuno profiad ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol. Mae’r dull dysgu’n rhyngweithiol, yn ddiddorol ac yn berthnasol i heriau’r byd go iawn. Mae ein dulliau addysgu’n cynnwys darlithoedd, gwaith maes ymarferol, ac ymchwil annibynnol, sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyflawn o archaeoleg a’r dyniaethau.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn darparu sgiliau hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd. Byddwch yn ymgysylltu â modylau megis Sgiliau Goroesi Academaidd a Chyflwyniad i Fywyd Prifysgol, gan eich helpu i ymgyfarwyddo â bywyd yn y brifysgol. Bydd pynciau eraill, fel Ymchwiliad Annibynnol ac Ysgrifennu Academaidd, yn rhoi hwb i’ch galluoedd ymchwil ac ysgrifennu. Mae modylau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu megis Deall Llenyddiaeth a Siarad â’r Meirw, gan gyfoethogi eich dealltwriaeth o’r dyniaethau.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ymchwilio i hanfodion archaeoleg a’r dyniaethau. Mae modylau craidd fel Cyflwyniad i Archaeoleg ac Archwilio’r Dyniaethau yn sylfaen ar gyfer deall gwahanol ddiwylliannau a chymdeithasau, o Aifft yr Henfyd i’r Dwyrain Agos. Mae modylau dewisol yn eich galluogi i archwilio pynciau fel Marwolaeth, Claddedigaeth, a Bywyd Tragwyddol a Mythau a Mytholeg gan wella eich gwerthfawrogiad o ryngweithio dynol â’r amgylchedd.
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso’ch gwybodaeth i bynciau mwy cymhleth. Byddwch yn archwilio sut mae arteffactau a dulliau archeolegol yn sail i’n dealltwriaeth o ymddygiadau a strwythurau cymdeithasol y gorffennol. Trwy fodylau dewisol fel Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro a Chloddio a Gwaith Maes, byddwch yn ennill profiad ymarferol ac yn mireinio eich sgiliau dadansoddi, gan archwilio sut y mae cymdeithasau wedi wynebu heriau drwy gydol hanes.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol sylweddol, a fydd yn eich galluogi i ymchwilio’n fanwl i faes personol o ddiddordeb. Byddwch yn archwilio pynciau arbenigol drwy fodylau dewisol fel Hynafiaid, Marwolaeth, a Chladdu a Chloddio’r Gorffennol. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio gwaith maes ymarferol ac ymchwil, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn archaeoleg neu astudiaethau academaidd pellach, ac integreiddio’r holl wybodaeth a sgiliau rydych wedi’u hennill trwy gydol eich gradd.
(40 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Gwybodaeth allweddol
-
TGAU neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn cynnwys:
- Rheoli ym meysydd llywodraeth a masnach
- Sector treftadaeth
- TGCh
- Gwaith y gymuned a llywodraeth leol
- Gwaith amgueddfeydd, arddangosfeydd ac archifau
- Archaeoleg maes proffesiynol
- Cyfleoedd ymchwil ac ôl-raddedig
- Addysgu, swyddog addysg
- Gwaith Gwirfoddol