Astudiaethau Clasurol Confucius (Llawn amser) (MA)
Mae’r rhaglen MA Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio traddodiadau cyfoethog testunau a syniadau Tsieineaidd hynafol. Mae’r cwrs hwn yn archwilio i galon gorffennol diwylliannol a deallusol Tsieina, gan ganolbwyntio ar astudio Conffiwsiaeth, Daoaeth, a Bwdhaeth. Mae’r credoau hynafol hyn yn dal i ddylanwadu ar drafodaethau modern am lesiant, moesoldeb, a sut rydym yn byw gyda’n gilydd mewn cymdeithas.
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu sgiliau mewn astudiaethau testunol, lle byddant yn darllen ac yn dehongli gweithiau pwysig o orffennol Tsieina. Bydd dysgu ieithoedd Tsieineaidd hynafol yn rhan allweddol o hyn, gan ganiat¨¢u i fyfyrwyr ymgysylltu ?’r ysgrifau gwreiddiol. Mae’r astudiaethau hyn yn darparu dealltwriaeth ddofn o grefyddau hynafol ac athroniaeth Tsieineaidd, gan helpu myfyrwyr i feddwl am sut y gall syniadau hynafol am fywyd, moesoldeb a chymdeithas barhau i fod o bwys heddiw.
Mae’r cwrs yn rhan o’r Celfyddydau Rhyddfrydol, sy’n golygu ei fod yn annog meddwl agored a meddwl yn feirniadol. Bydd myfyrwyr yn archwilio sut y gall syniadau o wahanol ddiwylliannau a systemau cred weithio gyda’i gilydd, gan hyrwyddo deialog rhyng-ffydd a rhannu gwerthoedd amlddiwylliannol. Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrio ar y credoau personol, yr ysbrydolrwydd, a’r codau moesol Tsieineaidd a luniodd gymdeithas am ganrifoedd.
Mae nod y rhaglen yn ymarferol yn ogystal ? bod yn academaidd. Trwy ddysgu sgiliau cyfieithu a dehongli, bydd myfyrwyr yn helpu i gadw traddodiadau diwylliant a threftadaeth Tsieineaidd yn fyw. Mae’r agwedd hon ar gadwraeth ddiwylliannol yn sicrhau bod y dysgeidiaethau hynafol hyn yn parhau i fod yn berthnasol yn y byd sydd ohoni heddiw. Drwy eu hastudiaethau, bydd myfyrwyr hefyd yn cael dealltwriaeth glir o athroniaeth Tsieina Hynafol, sy’n myfyrio ar y cydbwysedd rhwng unigolion a’r gymdeithas, yn ogystal ? phwysigrwydd byw mewn cytgord ? natur.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod eang o gyfleoedd. P’un a ydych yn dilyn ymchwil academaidd pellach neu addysgu, mae’r MA Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd yn arfogi myfyrwyr ? gwybodaeth sy’n pontio’r bwlch rhwng doethineb hynafol a materion cyfoes. Mae’n daith unigryw i’r gorffennol sy’n cynnig mewnwelediadau gwerthfawr ar gyfer y presennol a’r dyfodol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth ar gyfer dysgu ac addysgu ar y rhaglen Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd yn canolbwyntio ar ymgysylltu’n ddwfn ? thestunau Tsieineaidd Clasurol, gwella meddwl beirniadol, a datblygu sgiliau uwch mewn dadansoddi testunau. Trwy fodylau strwythuredig ac ymchwil annibynnol, bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o’r gwerthoedd ysbrydol, diwylliannol a gwleidyddol sydd wedi’u hymgorffori mewn Conffiwsiaeth a llenyddiaeth Tsieineaidd hynafol.
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y sgiliau sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer astudio testunau Tsiein?eg Clasurol. Bydd modylau yn ymdrin ? beirniadaeth, sylwebaeth a methodolegau testunol o ddadansoddi testunau, gan ddarparu fframwaith ar gyfer deall Conffiwsiaeth, Daoaeth, a Bwdhaeth. Bydd testunau allweddol fel yr I Ching, The Book of History a¡¯r Three Annals of Spring and Autumn yn cael eu hystyried, ochr yn ochr ag effaith hanesyddol y gweithiau hyn ar athroniaeth a llywodraethu Tsieineaidd.
Blwyddyn 2
Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau ymgysylltiad ? thestunau Conffiwsiaeth mwy cymhleth, gan gynnwys The Four Books ac egwyddorion llywodraethu Han. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio sut y derbyniwyd Conffiwsiaeth yn y Gorllewin, gan ddatblygu sgiliau cyfieithu a dehongli trwy astudio testunau Tsiein?eg Clasurol yn Saesneg. Mae¡¯r flwyddyn hon yn paratoi myfyrwyr i gymhwyso methodolegau beirniadol i ysgrifau Conffiwsaidd, gan ddatblygu arbenigedd mewn cadwraeth ddiwylliannol a dadansoddi athronyddol.
Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd ? thraethawd hir, lle byddant yn cymhwyso eu sgiliau ymchwil i gynhyrchu sylwebaeth feirniadol fanwl ar destun Tsiein?eg Glasurol dethol. Bydd y prosiect annibynnol hwn yn caniat¨¢u iddynt ddangos eu dealltwriaeth ddofn o ddiwylliant a threftadaeth Tsieina, gan arddangos eu gallu i ymgysylltu’n feirniadol ag ieithoedd hynafol Tsieineaidd ac egwyddorion allweddol Conffiwsaidd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae¡¯r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o¡¯r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i¡¯n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a¡¯ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i¡¯ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi¡¯n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy¡¯n golygu y bydd y cymorth a¡¯r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy¡¯n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i¡¯ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ¡®Positifrwydd Cyffredinol¡¯). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy¡¯n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2??
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.?
Mae natur ddwyieithog y rhaglen yn gofyn am rywfaint o gymhwysedd mewn Tsiein?eg a Saesneg.
Cyngor a Chymorth Derbyn?
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu ?’n t?m ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.?Gofynion Iaith Saesneg??
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o¡¯r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth ? sg?r o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o¡¯r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.??
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.?
Gofynion fisa ac ariannu?Os nad ydych o¡¯r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.??
Ar gyfer cyrsiau sy¡¯n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.??
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.???
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.????
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy¡¯n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i¡¯w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu¡¯n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.??
Os byddwch chi¡¯n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu¡¯n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i¡¯ch cefnogi gyda¡¯ch astudiaethau.?
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union? argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a¡¯r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.??
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol?
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu ?¡¯r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno ? chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno ? Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.??
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg?
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Bydd y cwrs MA mewn Astudiaethau Clasurol Confucius yn apelio¡¯n arbennig at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio testunau hynafol Tsieina, datblygu gwybodaeth gyfoethog ac academaidd am destunau Clasurol traddodiadol Tsieina, a chymhwyso’r wybodaeth hon i’w bywydau eu hunain ac eraill.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth y goreuon yn y pwnc ac i astudio gan ddefnyddio¡¯r dull addysgegol unigryw sy¡¯n deillio o fodel addysgol y ¡®Ddysgeidiaeth Fawr Frenhinol¡¯ (»Ê¼ÒÌ«ŒW), sy¡¯n dibynnu ar astudiaeth destunol ddwys a myfyrio.
Bydd myfyrwyr yn astudio yn yr Academi Sinoleg yn PCYDDS, Academi sydd newydd ei sefydlu yn Llambed sy¡¯n canolbwyntio ar hyfforddi athrawon Sage, a fydd, trwy esiampl, yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas trwy eu harferion moesol dyddiol a¡¯u gweithgareddau addysgu eu hunain.
-
Bydd mynediad i¡¯ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i¡¯ch galluogi i ymgysylltu¡¯n llawn ?¡¯ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i¡¯w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu¡¯ch dyfais.
Efallai y byddwch chi¡¯n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i¡¯r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungop?o, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremon?au graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsar?au a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i¡¯n hadran Bwrsar?au ac Ysgoloriaethau.
-
Mae swyddi posibl i raddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:
- athrawon ac addysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau yn Tsieina a’r DU
- ymchwilwyr academaidd i destunau traddodiadol a thestunau hynafol Tsieina
- gwaith cyfieithu
- gweinyddiaeth a pholisi addysgol
- busnes a mentrau masnachol moesegol
- mentrau a gwaith cymunedol
- y diwydiannau gwirfoddol a theithio
- cadwraeth treftadaeth; gwaith archif ac amgueddfa
- hyfforddwyr corfforaethol a phersonol mewn ¡®athroniaeth¡¯ a sgiliau bywyd hynafol Tsieina
Mae disgwyl y bydd y graddedigion ar y rhaglenni hyn yn meithrin sgiliau cyflogadwyedd sy¡¯n cynnwys sgiliau wrth drin gwybodaeth a chyfathrebu uwch; lefelau uchel o hunanreolaeth a rheoli prosiect; cymhwyso sgiliau lefel uchel yn ymarferol wrth ddadansoddi testun a dehongli.