Astudiaethau Canoloesol (Llawn amser) (MA)
Mae’r MA mewn Astudiaethau Canoloesol yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr i astudio’r Canoloesoedd trwy raglen ryngddisgyblaethol. Mae’r cwrs hwn yn galluogi i fyfyrwyr ymchwilio i’r gorffennol trwy ystod eang o bynciau, sy’n gynnwys Hanes, Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Celtaidd ac Archaeoleg. Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n angerddol ynghylch deall cymdeithasau canoloesol a’u heffaith ar y byd sydd ohoni, mae’r MA Astudiaethau Canoloesol hwn yn helpu myfyrwyr i gael mewnwelediad i agweddau unigryw ar ddiwylliant a chredoau canoloesol ar draws rhanbarthau ac amser.
Mae’r Brifysgol wedi meithrin enw da cadarn ym maes ymchwil ac addysgu hanes canoloesol, gan roi mynediad i adnoddau helaeth a phrin. Bydd myfyrwyr yn archwilio Hanes Modern Cynnar ochr yn ochr ag astudiaethau canoloesol, gan lunio cysylltiadau rhwng y cyfnod hanesyddol hwn sy’n ddiddorol tu hwnt. Mae’r cwrs yn berffaith ar gyfer y rhai sydd eisiau mynd i’r afael ag astudiaethau canoloesol o wahanol safbwyntiau a gyda llygad ffres, gan gynnwys mewn meysydd fel y dyniaethau digidol.
Yn rhan o’r rhaglen hon, bydd gan fyfyrwyr fynediad i’r Casgliadau Arbennig a gedwir yn Llyfrgell Roderic Bowen. Mae’r adnodd unigryw hwn yn cynnwys dros 35,000 o weithiau printiedig, gan gynnwys llawysgrifau canoloesol a llawysgrifau ôl-ganoloesol. I fyfyrwyr sy’n ymddiddori mewn treftadaeth ac archifau, mae Llyfrgell Roderic Bowen yn gyfle di-ail i weithio gyda ffynonellau canoloesol gwreiddiol. Ymhlith y deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr yn dod ar draws 69 incwnabwla - llyfrau printiedig cynnar o hanner canrif cyntaf printio - gan ddarparu cyswllt uniongyrchol i wreiddiau’r gair printiedig. Wrth i fyfyrwyr weithio gydag archifau ac arteffactau sy’n ganrifoedd oed, maent yn datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer ymchwil hanesyddol, meddwl beirniadol a dadansoddi adnoddau. Mae’r sgiliau hyn yn werthfawr ar gyfer datblygu astudiaethau academaidd a gyrfaoedd mewn meysydd fel treftadaeth, cadwraeth a gwaith amgueddfeydd.
At ei gilydd, mae’r MA Astudiaethau Canoloesol hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau archwilio’r cyfnod canoloesol gyda manylder ac amrywiaeth. Mae’r cwrs hwn yn agor y drws i fyd o ddiwylliant, bywyd crefyddol a digwyddiadau hanesyddol canoloesol sy’n parhau i ddylanwadu arnom heddiw.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein MA mewn Astudiaethau Canoloesol wedi’i gynllunio gyda ffocws ar ddysgu personol, manwl. Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â diwylliant a hanes canoloesol trwy seminarau, gweithdai bach, a goruchwyliaeth un i un, gyda gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno ar gampws Llambed neu drwy blatfformau Rhith-amgylchedd Dysgu (RhAD). Mae’r dull hwn yn cynnig amgylchedd hyblyg, rhyngweithiol gydag adborth a chymorth rheolaidd, gan feithrin sylfaen gref mewn sgiliau ymchwil a meddwl beirniadol.
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu dulliau a sgiliau ymchwil hanfodol trwy’r modwl craidd Pobloedd y Gorffennol, Cymdeithasau’r Presennol. Bydd modylau dewisol yn eich galluogi i archwilio pynciau fel y dyniaethau digidol, llenyddiaeth Arthuraidd Geltaidd, ac ysbrydolrwydd canoloesol. Mae’r modylau hyn yn eich cyflwyni i themâu, ffigyrau a naratifau pwysig o’r Canoloesoedd, gan gynnig persbectif rhyngddisgyblaethol ar hanes a diwylliant canoloesol.
Blwyddyn 2
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil Traethawd Hir. Caiff y gwaith hwn ei gefnogi gan diwtorialau unigol a sesiynau goruchwylio, sy’ cynnig adborth manwl ar eich ymchwil. Mae modylau dewisol ychwanegol yn darparu cyfleoedd pellach i archwilio eich diddordebau.
Gorfodol
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credyd)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2  &²Ô²ú²õ±è;
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen  &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. &²Ô²ú²õ±è;
 Cyngor a Chymorth Derbyn  
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;Gofynion Iaith Saesneg  
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byr (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), dadansoddiadau cymharol, adolygiadau a gwerthfawrogiad llenyddol, aseiniadau byr, ymarferion ieithyddol, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.
-
Tua £300 ar gyfer deunydd darllen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae meysydd cyflogaeth yn cynnwys:
- Amgueddfeydd
- Archifau
- Y sector dreftadaeth
- Llenorion Proffesiynol
- Marchnata