Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd (Llawn amser) (MA)
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar astudio ac ymchwilio i grefyddau, ieithoedd a thestunau nodedig hynafol Tsieina.
Bydd myfyrwyr yn astudio ¡®doethineb hynafol¡¯ Tsieina, sydd o arwyddoc?d diwylliannol ac sy¡¯n cael ei hystyried yn gynyddol berthnasol i bryderon cyfoes, megis llesiant personol a chymdeithasol a chynaliadwyedd.
Bydd y cwrs MA mewn Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd yn apelio¡¯n arbennig at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio testunau hynafol Tsieina, datblygu gwybodaeth gyfoethog ac academaidd am destunau Clasurol traddodiadol Tsieina; a chymhwyso’r wybodaeth hon i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu gan y goreuon yn y pwnc ac i astudio gan ddefnyddio¡¯r dull addysgegol unigryw sy¡¯n deillio o fodel addysgol y ¡®Ddysgeidiaeth Fawr Frenhinol¡¯ (»Ê¼Ò̫ѧ), sy¡¯n dibynnu ar astudiaeth destunol ddwys a myfyrio.
Bydd myfyrwyr yn astudio yn yr Academi Sinoleg yn PCYDDS, sef Academi sydd newydd ei sefydlu yn Llambed sy¡¯n canolbwyntio ar hyfforddi athrawon Sage, a fydd, trwy esiampl, yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas trwy eu harferion moesol dyddiol a¡¯u gweithgareddau addysgu eu hunain.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar fynd i¡¯r afael ag iaith draddodiadol Tsieina a thestunau Bwdhaidd Tsieineaidd ar lefel uwch a¡¯r gwerthoedd ac arferion ysbrydol, diwylliannol a gwleidyddol y maent yn eu hymgorffori.
Bydd Methodoleg Ymchwil ar gyfer Astudio Sinoleg (SICH7023) yn canolbwyntio ar wella¡¯r astudiaeth o Sinoleg a’r ddealltwriaeth o iaith a methodolegau Tsieineaidd Clasurol megis beirniadaeth destunol, sylwebaeth, a dadansoddi testun.
Bydd Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 1: ¡®Swtra Bywyd Anfeidrol¡¯ (SICH7024) yn myfyrio¡¯n feirniadol ar y syniadau athronyddol a chrefyddol sydd yn y Swtra Bywyd Anfeidrol (Tsieineaidd) a¡¯r ymateb iddynt yng nghyd-destun hynafol a modern.
Bydd Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 2: ¡®Swtra Deimwnt¡¯ (SICH7025) yn arddangos lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o sylwebaethau beirniadol a myfyrdodau eraill ar y Swtra Deimwnt.
Bydd Dehongli’r Pedwar Llyfr (SICH7028) yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o destunau allweddol o’r Pedwar Llyfr o wahanol safbwyntiau hanesyddol, diwylliannol ac athronyddol/moesegol.
Bydd Darlleniadau o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol (SICH7029) yn myfyrio¡¯n feirniadol ar yr athroniaethau moesol, cymdeithasol a gwleidyddol sy¡¯n cael eu hegluro mewn testunau penodol o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol, a¡¯r ymateb iddynt yng nghyd-destun hynafol a modern.
Mae modiwl ychwanegol, sef Testunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg (SICH7004), yn datblygu lefel uchel o ddealltwriaeth o hanes a dulliau damcaniaethol a methodolegol o gyfieithu testunau Tsiein?eg Clasurol i’r Saesneg.
Gan adeiladu ar y rhan o¡¯r rhaglen sy¡¯n cael ei haddysgu, mae¡¯r Traethawd Hir (SICH7022) yn caniat¨¢u i¡¯r myfyrwyr gynhyrchu darn sylweddol o waith ysgolheigaidd ar astudiaeth destunol Fwdhaidd Tsieineaidd.
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae¡¯r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o¡¯r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i¡¯n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a¡¯ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i¡¯ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi¡¯n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy¡¯n golygu y bydd y cymorth a¡¯r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy¡¯n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i¡¯ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ¡®Positifrwydd Cyffredinol¡¯). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy¡¯n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2?
- neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen?
- Tystysgrif ?l-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. ?l-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. ?l-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr.?
Mae¡¯r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ?l seibiant, os nad ydych wedi astudio¡¯r pwnc hwn o¡¯r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni¡¯n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon.?
Cyngor a Chymorth Derbyn?
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu ?’n t?m ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.Gofynion Iaith Saesneg?
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o¡¯r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth ? sg?r o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o¡¯r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.?
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannuOs nad ydych o¡¯r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.?
Ar gyfer cyrsiau sy¡¯n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.?
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.??
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.???
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy¡¯n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.?
-
Mae ein gradd MA Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng y Saesneg a Tsiein?eg Hynafol, yn dibynnu ar y modiwl penodol sy¡¯n cael ei astudio.
Mae dulliau asesu yn cynnwys traethodau, cyfieithu i Tsiein?eg fodern neu i¡¯r Saesneg, cyfieithu gydag anodiadau neu sylwebaeth feirniadol, cyflwyniad llafar, portffolio lleoliad dysgu ac, wrth gwrs, y traethawd hir.
Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i¡¯w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu¡¯n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi¡¯n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu¡¯n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i¡¯ch cefnogi gyda¡¯ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a¡¯r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu ?¡¯r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno ? chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno ? Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.?
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Bydd mynediad i¡¯ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i¡¯ch galluogi i ymgysylltu¡¯n llawn ?¡¯ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i¡¯w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu¡¯ch dyfais.
Efallai y byddwch chi¡¯n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i¡¯r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungop?o, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremon?au graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsar?au a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i¡¯n hadran Bwrsar?au ac Ysgoloriaethau.
-
Mae swyddi posibl i raddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:
- athrawon ac addysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau yn Tsieina a’r DU
- ymchwilwyr academaidd i destunau traddodiadol a thestunau hynafol Tsieina
- gwaith cyfieithu
- gweinyddiaeth a pholisi addysgol
- busnes a mentrau masnachol moesegol
- mentrau a gwaith cymunedol
- y diwydiannau gwirfoddol a theithio
- cadwraeth treftadaeth; gwaith archif ac amgueddfa
- hyfforddwyr corfforaethol a phersonol mewn ¡®athroniaeth¡¯ a sgiliau bywyd hynafol Tsieina
Mae disgwyl y bydd y graddedigion ar y rhaglenni hyn yn meithrin sgiliau cyflogadwyedd sy¡¯n cynnwys sgiliau wrth drin gwybodaeth a chyfathrebu uwch; lefelau uchel o hunanreolaeth a rheoli prosiect; cymhwyso sgiliau lefel uchel yn ymarferol wrth ddadansoddi testun a dehongli.