Astudiaethau Celtaidd (Rhan amser) (MA)
Mae’r radd Meistr Astudiaethau Celtaidd 4 blynedd hon yn cynnig ffordd hyblyg a diddorol o archwilio treftadaeth gyfoethog y rhanbarthau Celtaidd trwy ddysgu o bell. Wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y byd Celtaidd.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio rhai o’r testunau Celtaidd mwyaf arwyddocaol a ysgrifennwyd erioed. Mae’r testunau hyn, a ysgrifennwyd mewn ieithoedd Celtaidd, yn cynnwys clasuron fel y Mabinogion a llenyddiaeth Arthuraidd, sydd wrth wraidd traddodiadau adrodd straeon Celtaidd. Byddwch hefyd yn archwilio rolau diddorol derwyddon a seintiau Celtaidd ac yn dysgu sut i ddadansoddi gwahanol fersiynau o’r gorffennol Celtaidd. Bydd y rhaglen yn eich cyflwyno i feddylwyr allweddol, megis haneswyr, ieithyddion, llên gwerinwyr, ac archeolegwyr, i’ch helpu i archwilio’n feirniadol sut mae hanes y pobloedd Celtaidd wedi cael ei ddehongli dros amser.
Yn ogystal ag ehangu eich gwybodaeth am lenyddiaeth ac iaith, mae’r rhaglen hon yn cynnig sylfaen gref mewn astudiaethau diwylliannol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil pwysig, a fydd yn amhrisiadwy p’un a ydych yn dewis parhau gydag astudiaethau academaidd pellach neu fynd â’r sgiliau hynny i’r gweithle. Bydd y sgiliau ymchwil a meddwl beirniadol a gewch yn rhoi’r offer i chi fynd i’r afael â phynciau hanesyddol a modern yn hyderus.
P’un a ydych chi’n angerddol am ieithoedd Celtaidd, wedi eich swyno gan fythau hynafol, neu’n awyddus i ddarganfod mwy am dreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd, mae’r rhaglen hon yn cynnig archwiliad cyffrous a manwl o faes astudio diddorol iawn.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen Astudiaethau Celtaidd yn hybu dull cynhwysol o ddysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Rydym yn darparu fframwaith amlddisgyblaethol sy’n annog meddwl beirniadol ac ymchwil annibynnol, gan ganiatáu i fyfyrwyr archwilio meysydd amrywiol o hanes a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol cynnar a diweddar, yr iaith Gymraeg, astudiaethau rhywedd, llenyddiaeth Arthuraidd, llên gwerin, crefydd, ysbrydolrwydd ac eiconograffeg.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am yr ieithoedd Celtaidd ar gyfer y rhaglen hon, gan fod myfyrwyr yn astudio testunau wedi’u cyfieithu ac mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ddewis astudio’r Gymraeg fel rhan o’r rhaglen ac mae hefyd yn bosibl i fyfyrwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg astudio eu modiwlau’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg neu dderbyn goruchwyliaeth a chyfathrebu yn Gymraeg, ond dewis ysgrifennu eu haseiniadau yn Saesneg.
Blwyddyn 1 a 2
Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â phynciau sylfaenol mewn Astudiaethau Celtaidd, gan gynnwys dau fodwl craidd: Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau’r Mabinogion a’r Celtiaid: O’r Cychwyn i’r Cyfnod Modern. Yn ogystal â’r rhain, mae myfyrwyr yn dewis dau fodwl dewisol, gan archwilio meysydd fel hanes canoloesol, llenyddiaeth Arthuraidd, astudiaethau rhywedd, a llên gwerin. Mae Rhan 1 y cwrs hwn yn meithrin dealltwriaeth feirniadol a sgiliau ymchwil hanfodol.
Blwyddyn 3 a 4
Mae’r ffocws ar ymchwil annibynnol, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddilyn traethawd hir ar bwnc a ddewiswyd o fewn hanes, llenyddiaeth neu dreftadaeth ddiwylliannol Geltaidd. O dan arweiniad goruchwyliwr arbenigol, bydd myfyrwyr yn cymhwyso eu dysgu o flynyddoedd blaenorol, gan ddatblygu eu galluoedd dadansoddol ac ymchwilio ymhellach. Daw’r rhan yma o’r cwrs i ben gyda thraethawd hir estynedig sy’n adlewyrchu diddordebau academaidd unigryw pob myfyriwr.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Course disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
- neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannuOs nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), astudiaethau cymharol, gwerthfawrogiadau ac adolygiadau llenyddol, aseiniadau byrion, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.
-
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rheini sydd am ddysgu mwy am hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol Cymru a’r rhanbarthau Celtaidd er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith. Mae llawer o’r myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen yn rhan amser eisoes mewn gwaith cyflog ac yn dymuno cael cymhwyster ôl-raddedig fel ffordd bosibl o hyrwyddo neu newid rôl eu swydd. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr mae newyddiadurwyr, awduron, storïwyr, athrawon, darlithwyr, golygyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiannau twristaidd neu dreftadaeth. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen hefyd i wneud ymchwil bellach mewn Astudiaethau Celtaidd ar lefel PhD.