ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Hanes (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd Hanes yn rhoi cyfle i chi archwilio’r gorffennol trwy amrywiaeth ddiddorol o fodiwlau sy’n cynnwys hanes Ewrop, yr Unol Daleithiau, a thu hwnt, o’r hen oesoedd i’r oes fodern. Byddwch yn datblygu sgiliau deallusol a throsglwyddadwy gwerthfawr drwy ddulliau asesu amrywiol a ddefnyddir yn ein modiwlau.

Trwy astudio gradd mewn Hanes, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r gwahanol ffyrdd o lunio naratif hanesyddol. Mae’r rhaglen hon yn tynnu sylw at y cyfoeth a’r amrywiaeth mawr sydd gan hanes i’w gynnig.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch helpu i ofyn ac ateb cwestiynau penodol am y gorffennol. Byddwch yn dysgu mynd ar drywydd y cwestiynau hyn trwy ymholi strwythuredig, gan ddewis a chael gwybodaeth o amrywiaeth o ddeunyddiau, yn cynnwys ffynonellau cynradd a thystiolaeth hanesyddiaethol.

Mae ein modiwlau yn cynnwys hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol a hanes diwylliannol. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi, gan ddysgu sut i ddehongli tystiolaeth a datblygu meddwl beirniadol.

Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu, gan eich helpu i gyflwyno’ch canfyddiadau yn glir ac yn argyhoeddiadol. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, gan wneud y radd hon yn ddiddorol ac yn ymarferol.

Bydd y radd Hanes hon yn PCYDDS yn eich paratoi i ddeall a chyfrannu at ddadleuon hanesyddol. Byddwch yn datblygu’r gallu i ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth gymhleth, gan roi sgiliau i chi sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu cynnal dehongliadau ar sail tystiolaeth eich hun o ddigwyddiadau’r gorffennol. Mae’r radd hon nid yn unig yn cynnig dealltwriaeth ddofn o’r gorffennol ond hefyd yn rhoi sgiliau i chi sy’n berthnasol yn y byd heddiw. 
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
V100
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ystod eang o fodylau, sy’n ffocysu ar lawer o wahanol leoedd, themâu, pynciau a phobl, o Bede i Bowie, mynachlogydd i ffilmiau, a Chesar i Churchill.
02
Cyfle i astudio rhan eang o hanes, yr holl ffordd nôl i henfyd trwy’r Canoloesoedd yr holl ffordd i’r presennol.
03
Modylau wedi’u seilio ar arbenigedd ymchwil nodedig darlithwyr, fel hanes diwylliannol dinasoedd, coffâd rhyfel, Prydain y 1980au, ysgrifennu hanes a chof yn y Canol Oesoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein gradd Hanes yn seiliedig ar addysgu trochol, a arweinir gan ymchwil. Byddwch yn cael profiad o ystod amrywiol o bynciau hanesyddol drwy ddysgu ymarferol a thrafodaethau grŵp bach, gan ddatblygu sgiliau hanfodol mewn dadansoddi hanesyddol a meddwl beirniadol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu’r sgiliau sylfaen wrth astudio hanes. Byddwch yn archwilio hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, ac yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol.

Marwolaeth, Claddu a Bywyd ar ôl Marwolaeth

(20 credits)

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd

(20 credydau)

Bywyd bob dydd yn Athen a Rhufain

(20 credydau)

Haneseiddio Testunau

(20 credydau)

Beth sy'n creu gwareiddiad?

(20 credydau)

Y Byd Modern

(20 credydau)

Archwilio'r Dyniaethau

(20 credydau)

Gwneud Hanes: Y Gorffennol ar Waith

(20 credydau)

Y Byd Canol Oesol

(20 credydau)

Bydoedd y Bobl: Rhyngweithio â'r Amgylchedd

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn rhoi golwg  dyfnach ar bynciau arbenigol. Gallwch ddewis o fodiwlau hyblyg er mwyn gwella eich sgiliau dadansoddi a’ch meddwl beirniadol. 

(Ail)gyflwyno ac (ail)greu'r Gorffennol

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Treftadaeth Anodd/ Twristiaeth Dywyll

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith
Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Lleoliad Proffesiynol

(20 credydau)

African Modernities

(20 credits)

Marwolaeth yn yr Hen Fyd

(20 credydau)

Yr Economi Wleidyddol Ryngwladol

(20 credydau)

Rhywedd, Trais ac Ymerodraeth

(20 credyd)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, a fydd yn eich galluogi i wneud ymchwil gwreiddiol ar bwnc o’ch dewis, yn ogystal â dewis modiwlau ychwanegol i gyd-fynd â’ch diddordebau. Erbyn diwedd y rhaglen hon, bydd gennych ddealltwriaeth gynhwysfawr o hanes, gyda’r sgiliau i ddehongli tystiolaeth a llunio naratifau hanesyddol.

(Ail)gyflwyno ac (ail)greu'r Gorffennol

(20 credydau)

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Chwedlau a Mytholeg Glasurol yn Oes y Rhufeiniaid a'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Rhyfel oer, rhyfeloedd tanbaid: Safbwyntiau byd eang ar hanes ar ol y rhyfel

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon am Ddefaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Treftadaeth Anodd/ Twristiaeth Dywyll

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Arddangos y Gorffennol: Yr Hen Aifft, marwolaeth a chynrychiolaeth fodern

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Marwolaeth yn yr Hen Fyd

(20 credydau)

Yr Economi Wleidyddol Ryngwladol

(20 credydau)

Moderneddau Affricanaidd

(20 credyd)

Rhywedd, Trais ac Ymerodraeth

(20 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS - e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  &²Ô²ú²õ±è;

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  &²Ô²ú²õ±è;

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   &²Ô²ú²õ±è;

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.  &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.  &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn Â£20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i Â£50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith a/neu astudiaethau pellach. Mae’r radd Hanes yn paratoi myfyrwyr at swyddi mewn meysydd fel gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu. 

    • Academia
    • Busnes
    • Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol; gwasanaeth sifil.
    • Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
    • Newyddiaduraeth
    • Y gyfraith ac eiriolaeth
    • Llywodraeth leol, cymuned, gwleidyddiaeth leol
    • ³Û³¾³¦³ó·É¾±±ô&²Ô²ú²õ±è;ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ
    • Addysgu

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau