ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Astudiaethau Celtaidd (Llawn amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Llawn Amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS/ Cyfweliad

Archwiliwch ddiwylliannau cyfoethog ac amrywiol y byd Celtaidd. Drwy’r cwrs hwn, byddwch yn meithrin dealltwriaeth lawn o’r bywyd Celtaidd, llenyddiaeth Geltaidd, a chrefydd Geltaidd a luniodd gymdeithasau hynafol a modern ledled Cymru, Iwerddon, Cernyw, a thu hwnt. Gyda ffocws ar safbwyntiau hanesyddol a modern, mae’r cwrs yn eich galluogi i ymgysylltu â threftadaeth y rhanbarthau Celtaidd a gwerthfawrogi’r cysylltiadau diwylliannol dwfn sy’n cysylltu’r ardaloedd hyn.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i fyfyrwyr o bob cefndir, gydag opsiynau i naill ai ddysgu Cymraeg o’r dechrau neu wella eich sgiliau Cymraeg. Mae’r ffocws hwn ar yr iaith Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill yn rhoi cipolwg  gwerthfawr ar arwyddocâd diwylliannol a chymdeithasol yr ieithoedd hyn, yn y gorffennol a heddiw. Trwy ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg, byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau cyflogaeth yn y dyfodol, gan roi mantais i chi mewn sectorau fel addysg, treftadaeth a gwasanaethau cyhoeddus.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau o’r hen Geltiaid i gymdeithasau Celtaidd modern. Byddwch yn archwilio sut mae diwylliant Celtaidd wedi esblygu, gan edrych ar ei effaith ar hanes a chymdeithas Ewrop. Trwy hanes y rhanbarthau Celtaidd, byddwch yn archwilio datblygiadau diwylliannol allweddol a sut mae’r rhain wedi siapio bywyd ledled Cymru, Iwerddon a Chernyw.

Mae’r cwrs yn eich annog i ymgysylltu’n ddwfn â’r pwnc trwy astudio testunau llenyddol ac archwilio ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd yn feirniadol. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau a methodolegau i ddadansoddi digwyddiadau hanesyddol, newidiadau diwylliannol, a darnau pwysig o lenyddiaeth. Bydd y dadansoddiad beirniadol hwn yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd neu astudiaeth academaidd bellach, gan y byddwch yn cael sylfaen gadarn mewn sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy.

P’un a ydych yn angerddol am y dreftadaeth Geltaidd, â diddordeb mewn iaith, neu’n awyddus i archwilio llenyddiaeth Geltaidd, mae’r cwrs hwn yn darparu profiad cynhwysfawr a diddorol. Ar ôl graddio, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i ddilyn gyrfa neu astudiaeth bellach, gyda gwerthfawrogiad dwfn o hanes, diwylliant ac arwyddocâd y byd Celtaidd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CS01
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS/ Cyfweliad

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Bydd ein myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o fodylau a phynciau ar ddiwylliant Celtaidd a llenyddiaeth Geltaidd, o’r Hen Fyd i’r cyfnod modern.
02
Addysgir y rhaglen hon i chi drwy ein platfform dysgu o bell unigryw, felly gallwch ddal ati i weithio a chadw at eich ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio at eich gradd BA.
03
Dysgu ymhle i ddod o hyd i’r ffynonellau pwysicaf ar y bobloedd Geltaidd a sut i gwestiynu'r gwahanol fersiynau o’r gorffennol a gynigiwyd gan haneswyr, ieithyddion, llên-gwerinwyr ac archeolegwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen Astudiaethau Celtaidd yn cyfuno trylwyredd academaidd â dull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Rydym yn credu mewn ymgysylltu â phynciau a syniadau amrywiol, gan gynnig yr offer i chi feddwl yn feirniadol, dadansoddi ffynonellau, ac archwilio’r byd Celtaidd trwy iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant. Mae pob blwyddyn yn adeiladu ar y sgiliau hyn, gan feithrin twf academaidd a phersonol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o fywyd Celtaidd, hanes a diwylliant Celtaidd ledled Cymru, Iwerddon a Chernyw. Cewch eich cyflwyno i ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd, gan ddysgu dulliau ymchwil allweddol wrth ddechrau eich astudiaethau iaith Gymraeg neu wella sgiliau presennol. Mae‘r flwyddyn hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau astudio hanfodol a meddwl yn feirniadol.

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i'r Ieithoedd Celtaidd

(20 credydau)

Y Celtiaid Cynnar

(20 credydau)

Cyflwyniad i Lenyddiaeth Geltaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gelf Geltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 1

(20 credydau)

Gan adeiladu ar wybodaeth y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio pynciau mwy arbenigol fel crefydd Geltaidd, treftadaeth y rhanbarthau Celtaidd, a thestunau llenyddol allweddol o’r hen Geltiaid  hyd at yr oes fodern. Byddwch yn dyfnhau eich sgiliau dadansoddi beirniadol, yn ymgysylltu â ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, ac yn parhau i ddatblygu eich hyfedredd yn y Gymraeg.

Y Celtiaid trwy lygaid y Groegiaid a'r Rhufeiniaid

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith
Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Sut mae Llydaw yn cael ei Chynrychioli

(20 credydau)

Enwau Lleoedd Cymraeg a Cheltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 2

(20 credydau)

Cerddi Mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Prydain Rufeinig

(20 credydau)

Gwir Frythoniaid

(20 credydau)

Cernyw heb y Gernyweg

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Dewisol

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar ymchwil annibynnol, gan gwblhau traethawd hir ar bwnc o’ch dewis. Byddwch yn archwilio themâu uwch mewn llenyddiaeth, hanes a diwylliant Celtaidd, gan gymhwyso damcaniaethau a methodolegau cymhleth. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer y gweithle neu astudiaeth bellach drwy fireinio’ch sgiliau academaidd a throsglwyddadwy.

Traethawd Hir

(60 credydau)

Dewisol

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Cerddi Mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Prydain Rufeinig

(20 credydau)

Gwir Frythoniaid

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Cernyw heb y Gernyweg

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith
Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Sut mae Llydaw yn cael ei Chynrychioli

(20 credydau)

Enwau Lleoedd Cymraeg a Cheltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 2

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS  - e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32 /Cyfweliad

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu  er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Bydd y rhaglen hon yn cynnwys nifer o’r mathau canlynol o asesu:

    • traethodau 1,000 i 4,000 o eiriau o hyd
    • dadansoddi dogfennau
    • adolygiadau o lyfrau / cyfnodolion
    • adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol
    • profion amser
    • arholiadau a welir a nas gwelir o flaen llaw
    • dyddlyfrau maes
    • posteri
    • cyflwyniadau grŵp ac unigol
    • traethodau hir 10,000 o eiriau
    • wicis
    • sylwebaethau
    • gwerthusiadau ffilm
  • Gwneir amcangyfrifon gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn Â£20.

    Taith maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i Â£1,500
    • Teithiau unigol: oddeutu £5 i Â£50
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion llwyddiannus yn ennill sgiliau a fydd yn arwain at ystod o swyddi posibl yn cynnwys y canlynol:

    • addysgu
    • y diwydiant treftadaeth a thwristiaeth
    • llyfrgelloedd
    • archifau a gwasanaethau gwybodaeth
    • llywodraeth leol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
    • gwasanaeth sifil
    • gweinyddu
    • prawf ddarllen
    • cyhoeddi
    • newyddiaduraeth
    • ffilm
    • teledu
    • y cyfryngau
    • y celfyddydau creadigol

    Bydd llawer o’n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y Drindod Dewi Sant/Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: er enghraifft MA Astudiaethau Celtaidd neu astudiaethau MPhil a PhD.

    Bydd dysgu’r Gymraeg a dod yn ddwyieithog yn paratoi myfyrwyr i weithio’n hyderus yn rhan o weithlu dwyieithog yng Nghymru.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau