Groeg a Lladin (Llawn amser) (PGDip)
Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig a’r Diploma Ôl-raddedig mewn Groeg a Lladin yn cynnig cyfle gwerthfawr â ffocws i unrhyw un sy’n angerddol am ieithoedd Groeg a Lladin. Mae’r rhaglen hon yn darparu amgylchedd astudio strwythuredig wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau mewn Groeg a Lladin Hynafol, p’un ai eu bod yn cychwyn fel dechreuwyr neu’n edrych i adeiladu ar wybodaeth sy’n bodoli eisoes. Mae’r cwrs yn darparu ar gyfer pob lefel o hyfedredd iaith, o ddechreuwyr i lefelau uwch, gan sicrhau y gall pob myfyriwr symud ymlaen ar ei gyflymder ei hun.
Prif nod y cwrs yw cefnogi dysgu a datblygu iaith. Mae’r strwythur addysgu unigryw yn eich galluogi i archwilio’r testunau clasurol ac ymchwilio’n ddwfn i fyd y Clasuron. Bob blwyddyn, dewisir dau waith i’w astudio mewn Groeg a Lladin. Ar gyfer y ddwy iaith, rhyddiaith yw un o’r testunau a barddoniaeth yw’r llall, gan gynnig dull cyflawn o ymdrin â’r ddwy ffurf lenyddol. Mae’r dewis o awduron yn newid bob blwyddyn, sy’n sicrhau profiad ffres a diddorol i fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu y byddwch yn astudio awduron canonaidd ac awduron sydd ddim yn rhan o’r canon, gan gael persbectif eang ar lenyddiaeth hynafol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gweithiau Lladin a astudiwyd wedi cynnwys testunau gan Petronius, Columella, Ofydd, Claudian, a Statius. Ar gyfer y testunau Groegaidd, mae myfyrwyr wedi archwilio gweithiau fel yr Emynau Homeraidd, a Plato, Diodorus, Soffocles, ac Euripides. Mae’r awduron hyn yn cynrychioli amrywiaeth gyfoethog o arddulliau a themâu, o athroniaeth a hanes i farddoniaeth epig a thrasiedi.
Mae’r rhaglen yn cynnig dull cynhwysfawr o feistroli’r ieithoedd hynafol hyn, gan ei gwneud yn ddewis ardderchog i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn astudiaethau academaidd pellach neu ddyfnhau eu dealltwriaeth o lenyddiaeth hynafol. P’un ai eich bod am archwilio harddwch barddoniaeth Ladin neu ddyfnder athroniaeth Groeg, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Manylion y cwrs
- Ar-lein
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein dull o ddysgu ac addysgu yn canolbwyntio ar gynnig amgylchedd hyblyg a chefnogol. Ein nod yw ymgysylltu â myfyrwyr ar bob lefel o’u hastudiaethau ieithoedd Groeg a Lladin, gan ddarparu addysgu strwythuredig a chyfleoedd i archwilio testunau clasurol yn annibynnol. Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o Roeg a Lladin Hynafol, gan bwysleisio meistrolaeth iaith a dadansoddiad beirniadol.
Ym Mlwyddyn A, byddwch yn dechrau gyda Groeg Dwys I a Groeg Dwys II, gan osod y sylfaen ar gyfer eich astudiaeth o’r iaith. Bydd modiwlau uwch yn cynnwys Hanesyddiaeth Groeg a Ffurfiau Barddonol Byr, gan ddyfnhau eich ymgysylltiad â llenyddiaeth hynafol. O ran Lladin, bydd Lladin Dwys I a Lladin Dwys II yn datblygu eich sgiliau iaith, gan arwain at archwilio Lladin Epig a Rhyddiaith Weriniaethol.
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Bydd Blwyddyn B hefyd yn gwella eich sgiliau gyda Groeg Dwys I a Groeg Dwys II, ac yna astudiaethau mwy arbenigol mewn Areithyddiaeth Groeg a Straeon Medea. O ran Lladin, ar ôl gorffen Lladin Dwys I a Lladin Dwys II, byddwch yn archwilio Cerddi Serch Awgwstaidd a Rhyddiaith Neronaidd. Mae’r modiwlau hyn yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o awduron canonaidd ac awduron sydd ddim yn rhan o’r canon mewn Groeg a Lladin.
Dewisol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
tysteb
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Mae ein graddau iaith mewn Groeg a Lladin yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â thraethodau ac arholiadau traddodiadol, cewch eich asesu trwy sylwebaethau a phrofion yn y dosbarth. Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer swyddi ôl-raddedig, gan roi pwyslais arbennig ar yr ieithoedd.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.