ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Arfer Archeolegol (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
3 Flynedd Rhan amser

Mae’r MA Arfer Archeolegol wedi’i llunio ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym maes archaeoleg a threftadaeth sy’n dymuno datblygu sgiliau proffesiynol tra maent yn parhau â’u cyflogaeth.  Mae’r cwrs yn darparu cyfle i ennill arbenigedd mewn meysydd allweddol megis arwain gwaith maes, arolygu adeiladau, archaeoleg amgylcheddol, a dadansoddi arteffactau.  Cyflwynir y rhaglen drwy sesiynau byw wythnosol ar-lein. Mae’n caniatáu i brentisiaid ymgysylltu â thiwtoriaid arbenigol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant tra maent yn cymhwyso’u dysgu’n uniongyrchol i’w gweithle.  Mae’r rhaglen hefyd yn gosod pwyslais cryf ar sgiliau rheoli prosiectau, gan baratoi prentisiaid ar gyfer rolau arwain yn y sector treftadaeth. 

Mae’r llwybr prentisiaeth hwn wedi’i gyllido’n llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys wedi’u lleoli yn Lloegr, gan ddarparu llwybr gwerthfawr ar gyfer symud gyrfa ymlaen heb rwystrau ariannol.  Mae’n ddelfrydol i’r rheini sy’n dymuno gwella’u sgiliau, ennill cymhwyster cydnabyddedig, a symud ymlaen o fewn y proffesiwn archaeoleg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Flynedd Rhan amser

Telir y Ffioedd gan Ardoll ar gyfer unigolion cymwys. Nid oes cost i’r Prentis na’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cewch ymwneud â phrosesau a dogfennau’r byd go iawn gan gynnwys cynlluniau rheoli prosiect MoRPHE, safonau CIfA, costiadau a siartiau Gantt.
02
Mae’r tîm addysgu a’r siaradwyr allanol i gyd yn ymarferwyr presennol yn y sector sy’n gyfarwydd â galwadau rheoli ac ymgymryd â gwaith arbenigol.
03
Mae’r cwrs wedi’i strwythuro o gwmpas y sgiliau rheoli prosiect sydd eu hangen ar gyfer cynllunio, cyflawni, adrodd ac archifo prosiectau archeolegol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r MA Arfer Archeolegol yn integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol â chymwysiadau yn y byd go iawn, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau proffesiynol sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn archaeoleg.  Wedi’i llunio ar gyfer ymarferwyr yn y sector, mae’n paratoi myfyrwyr i ymgymryd â chyfrifoldebau megis paratoi adroddiadau archeolegol, gwneud dyfarniadau gwybodus, a rheoli timau. 

Dulliau Ymchwil Archeolegol

(30 credydau)

Traethawd Hir MA Arfer Archeolegol

(60 credydau)

Dylunio a Chyflwyno Prosiect Archeolegol

(30 credydau)

Adrodd ar Brosiectau Archeolegol

(30 credydau)

Arfer Archeolegol Arbenigol

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Yn unol â’r uchod – Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi ar hyn o bryd yn y sector treftadaeth yn Lloegr gyda 2 flynedd o brofiad er mwyn bod yn gymwys. Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf, ond ystyrir pob cais ar ei deilyngdod ei hun, felly gellir cynnig lleoedd ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol.

  • Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: adroddiadau, traethodau, aseiniadau byr, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15000 o eiriau.

  • Bydd angen offer TG safonol ar y prentis i gymryd rhan mewn sesiynau addysgu a pharatoi aseiniadau.

  • Telir am ffioedd y rhaglen gan yr Ardoll Prentisiaethau (100% ar gyfer cyflogwyr mawr, 95% ar gyfer BBaCh). 
    Efallai y byddwch yn gymwys am gyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu rhagor am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gyllid sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol i’r rheiny sydd wedi bod yn gweithio yn y sector ac sy’n barod i dderbyn cyfrifoldebau ychwanegol yn swyddog prosiect neu’n rheolwr prosiect neu’n arbenigwr yn dadansoddi ac yn adrodd ar fath penodol o ddata.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau